P-05-784 Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac effeithiau diddyfnu - adnabyddiaeth a chefnogaeth
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Stevie Lewis ac ystyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor yn ystod Mai 2017, ar ôl casglu 213 o lofnodion ar-lein.
Geiriad y ddeiseb
Rydym
yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i
gymryd camau i adnabod yn briodol a chefnogi'n effeithiol yr
unigolion hynny yr effeithir arnynt ac a niweidir gan ddibyniaeth
ar gyffuriau presgripsiwn a'r adwaith wrth ddiddyfnu oddi
wrthynt.
Sefydlwyd y ddeiseb hon i godi ymwybyddiaeth o sefyllfa unigolion
yng Nghymru yr effeithir arnynt gan ddibyniaeth ar gyffuriau
gwrth-iselder a bensodiasepinau ar bresgripsiwn a'r adwaith wrth
geisio diddyfnu oddi wrthynt. Yn benodol gofynnwn i Lywodraeth
Cymru gefnogi galwad Cymdeithas Feddygol Prydain ledled y DU am
gamau i ddarparu cymorth amserol a phriodol ar gyfer unigolion yr
effeithir arnynt.
Mae'r term "dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn" yn cyfeirio'n
benodol at y sefyllfa lle mae cleifion, ar ôl cymryd eu
meddyginiaeth gwrth-iselder neu bensodiasepin yn union fel a
ragnodwyd gan eu meddyg, yn gweld na allant roi'r gorau oherwydd yr
effeithiau diddyfnu difrifol. Mae'n bwysig nodi yma bod caethiwed a
dibyniaeth yn gysylltiedig â'i gilydd, ond yn faterion
gwahanol. Mae defnyddio'r term 'bod yn gaeth' yn awgrymu bod yr
unigolyn yn ymddwyn mewn ffordd benodol er mwyn ceisio pleser. Mae
adroddiadau am ddibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn yn y cyfryngau
yn parhau i gyfeirio at "camddefnyddio" a "bod yn gaeth" fel pe
bai'r claf yn gyfrifol mewn rhyw ffordd am ei niwed ei hun. Mae hyn
ymhell o'r gwir. Ni cheir unrhyw bleser o gwbl o sylweddoli eich
bod yn dioddef amrywiaeth eang o symptomau corfforol ac emosiynol
wrth geisio rhoi'r gorau i'ch meddyginiaeth gwrth-iselder neu
cymryd llai ohoni. Mewn rhai achosion, gall y symptomau gyfyngu ar
fywyd pobl ac, yn drasig, gallant fod yn angheuol hyd yn oed. Mae
ar gleifion angen cydnabyddiaeth ffurfiol, cymorth ac arweiniad i'w
helpu drwy eu taith o roi'r gorau i'r feddyginiaeth ac nid yw
hynny'n bodoli ar hyn o bryd.
Gwybodaeth ychwanegol
Yn ddiweddar, mae Cymdeithas Feddygol Prydain wedi tynnu sylw at broblem dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn. Ym mis Mai 2017 ysgrifennodd: "Prescribing of psychoactive drugs is a major clinical activity and a key therapeutic tool for influencing the health of patients. But often their use can lead to a patient becoming dependent or suffering withdrawal symptoms. In the absence of robust data, we do not know the true scale and extent of the problem across the UK. However, the evidence and insight presented to us by many charity and support groups shows that it is substantial. It shows us that the 'lived experience' of patients using these medications is too often associated with devastating health and social harms. This represents a significant public health issue, one that is central to doctors' clinical role, and one that the medical profession has a clear responsibility to help address." Oherwydd nad yw sgil effeithiau, effeithiau goddefiad ac effeithiau diddyfnu'r meddyginiaethau hyn yn cael eu hadnabod yn feddygol am yr hyn ydynt, pan fydd cleifion yn datblygu'r effeithiau/symptomau cysylltiedig hyn maent yn aml yn cael presgripsiwn ar gyfer meddyginiaethau eraill ac yna mae'r gymysgedd o nifer o feddyginiaethau yn cymhlethu'r problemau ymhellach.
Mae cleifion yr effeithir arnynt yn eu cael eu hunain â diagnosis amwys, e.e.'symptomau heb esboniad meddygol' neu 'anhwylderau'r system anorganaidd / corfforol'. Yn y bôn, diagnosis seiciatrig yw pob un o'r rhain, yn priodoli amrywiol symptomau corfforol sy'n gwanychu a llesgáu'r claf i'w bryder a'i gredoau ac ati ei hun. Effaith hyn yw diystyru, diraddio a digalonni rhagor ar y cleifion hyn. Os na ellir cydnabod bod modd i gleifion ddioddef niwed a chamweithrediad anorganaidd parhaus ar y system nerfol o ganlyniad i gymryd meddyginiaethau 'yn unol â'r presgripsiwn' (weithiau dros lawer o flynyddoedd), bydd dysg a gwelliant meddygol systemig yn cael eu llesteirio a bydd cleifion yn parhau i gael eu niweidio ymhellach. Yn y cyfamser ni sylweddolir o hyd faint y risgiau wrth roi'r presgripsiwn cychwynnol, ac mae'r canllawiau camarweiniol a'r cyngor 'arfer gorau' ar gyfer rhoi meddyginiaethau o'r fath ar bresgripsiwn yn parhau yr un fath.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad